Arweinydd

HUW FOULKES

Ers blynyddoedd, mae Huw wedi bod yn arwain ac yn canu mewn corau. Enillodd wobrau  cenedlaethol fel unawdydd a chyda nifer o gorau. Ers 2013, mae’n arwain Côrdydd sydd wedi dod  i’r brig mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Roedd yn un o sylfaenwyr Côr Aelwyd y  Waun Ddyfal enillodd wobr Côr leuenctid Côr Cymru yn 2013. Bu hefyd yn arwain Côr Hen Nodiant  am nifer o flynyddoedd gan ddod i’r brig yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar sawl achlysur.

Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn mynd ati i ddilyn Diploma Ôl-radd mewn  Newyddiaduraeth Darlledu. Erbyn hyn, mae’n Olygydd rhaglen deledu Newyddion S4C sy’n cael ei  chynhyrchu gan BBC Cymru ac yn Uwch Gynhyrchydd rhaglenni’r Eisteddfod Genedlaethol.

Huw Foulkes

Branwen a Huw

 

 

 

Branwen Gwyn

Cyfeilydd:
Branwen Gwyn

BRANWEN GWYN

Yn un o sylfaenwyr Côrdydd, mae Branwen wedi bod yn canu a chyfeilio i’r côr ers y dechrau un! Yn ei harddegau, bu’n brif drwmpedydd i nifer o ensembles cerddorol De Morgannwg, gan  gynnwys y Gerddorfa, Band Chwyth Ieuenctid, a’r Ensemble Pres Symffonig. Aeth ymlaen i  ennill Ysgoloriaeth Berfformio i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgoi Bangor, gan arbenigo ar  ganu’r utgorn yno, a dod yn brif drwmpedydd Cerddorfa’r Brifysgol. Yn ddiweddarach, bu  Branwen yn aelod o fand prés BTM (Bedwas, Trethomas a Machen), gan gyrraedd rownd  derfynol yr Uwch-Adran ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Prydain yn 2005.

Ond prif offeryn Branwen yw’r piano. Tra’n ei harddegau, enillodd ysgoloriaethau iau i’r  Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.  Dechreuodd ei diddordeb mewn cyfeilio yn Ysgol Glantaf, wrth i Alun Guy roi cyfieoedd iddi  gyfeilio i gorau’r ysgol. Tra’n y brifysgol a byth ers hynny, mae wedi cyfeilio i nifer o unigolion  a chorau o gwmpas Caerdydd, ond mae’r flaenoriaeth i Gôrdydd bob tro, wrth gwrs!  Mae Branwen yn un o gyflwynwyr gwasanaeth Tywydd S4C ac yn gweithio fel cyfieithydd  llawrydd.

 

Branwen Gwyn

Sioned James 1974 – 2016

Sioned James
Gyda thristwch daeth y newyddion am farwolaeth Sioned James,
arweinyddes a sylfaenydd Côrdydd

Cofio Sioned James

 


Sioned James
Arweinydd
Côrdydd

Daw Sioned, James, arweinydd Côrdydd, o Landysul yn wreiddiol ond erbyn hyn, mae wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers 1994. Graddiodd o Brifysgol Cymru Caerdydd gyda gradd dosbarth cyntaf ym 1997. Roedd gan Sioned diddordeb mewn canu corawl ers ei hieuenctid cynnar a chafodd y cyfle i ganu gyda rhai o gorau mwyaf blaenllaw Cymru, gan gynnwys Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, Ysgol Gerdd Ceredigion, Cantorion Teifi, Swansea Bach Choir a sawl grwp lleisiol.

Bu’n ddigon ffodus i ddod o dan adain dylanwadol Islwyn Evans a John Hugh Thomas yn gynnar iawn yn ei haddysg, a chafodd y cyfle ganddo i arwain corau megis Ysgol Gerdd Ceredigion a chorau Ysgol Dyffryn Teifi.

Cafodd y cyfle yn 1999 i gyd-weithio ar gryno ddisg Cwpan Rygbi’r Byd gan ysgrifennu’r rhagair am gerddoriaeth corawl Cymru a’r geiriau i gan Bryn Terfel a Shirley Bassey, `World in Union’. Ymddangosodd ar raglen rhwydwaith BBC 1 ar “Can’t Sing Singers” lle bu’n trwytho 12 o bobol sut i ganu am 6 mis.  Mae hi wedi gweithio fel cyd-lynydd Cerddoriaeth ar nifer o raglenni poblogaidd, gan gynnwys tair cyfres o Con Passionate, dwy gyfres o Coalhouse ac mae hi hefyd yn arwain Cor Pensiynwyr y Mochyn Du.  Bu’n gweithio fel darlithydd ar y cwrs Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau ond mae hi nawr yn Gyfarwyddwr ar Boom Talent, cwmni sy’n datblygu gyrfaoedd cyflwynwyr, actorion a chantorion.

Sioned James