Arweinydd

Huw Foulkes

Branwen a Huw

 

 

 

Branwen Gwyn

Cyfeilydd:
Branwen Gwyn

 

Yn un o sylfaenwyr Côrdydd, mae Branwen wedi bod yn canu a chyfeilio i’r côr ers y dechrau un! Yn ogystal â bod yn bianydd, mae hi hefyd yn canu’r trwmped .  Yn ei harddegau, bu’n brif drwmpedydd i nifer o ensembles cerddorol De Morgannwg, gan gynnwys y Gerddorfa, Band Chwyth Ieuenctid, a’r Ensemble Pres Symffonig.  Aeth ymlaen i ennill Ysgoloriaeth Berfformio i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, gan arbenigo ar ganu’r utgorn yno, a dod yn brif drwmpedydd Cerddorfa’r Brifysgol.  Yn ddiweddarach, bu Branwen yn aelod o fand prês BTM (Bedwas, Trethomas a Machen), gan gyrraedd rownd derfynol yr Uwch-Adran ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Prydain yn 2005.  Y dyddiau yma, dim ond ar gyfer priodasau ffrindiau bydd Branwen yn canu’r trwmped!

Prif offeryn Branwen yw’r piano.  Tra’n ei harddegau, enillodd ysgoloriaethau iau i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Dechreuodd diddordeb Branwen mewn cyfeilio yn Ysgol Glantaf, wrth i Alun Guy roi cyfleoedd iddi gyfeilio i gorau’r ysgol.  Tra’n y brifysgol, a byth oddi ar hynny, mae wedi cyfeilio i nifer o unigolion a chorau o gwmpas Caerdydd, ond mae’r flaenoriaeth a’r ffyddlondeb i Gôrdydd bob tro, wrth gwrs!

Branwen Gwyn

Sioned James 1974 – 2016

Sioned James
Gyda thristwch daeth y newyddion am farwolaeth Sioned James,
arweinyddes a sylfaenydd Côrdydd

Cofio Sioned James

 


Sioned James
Arweinydd
Côrdydd

Daw Sioned, James, arweinydd Côrdydd, o Landysul yn wreiddiol ond erbyn hyn, mae wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers 1994. Graddiodd o Brifysgol Cymru Caerdydd gyda gradd dosbarth cyntaf ym 1997. Roedd gan Sioned diddordeb mewn canu corawl ers ei hieuenctid cynnar a chafodd y cyfle i ganu gyda rhai o gorau mwyaf blaenllaw Cymru, gan gynnwys Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, Ysgol Gerdd Ceredigion, Cantorion Teifi, Swansea Bach Choir a sawl grwp lleisiol.

Bu’n ddigon ffodus i ddod o dan adain dylanwadol Islwyn Evans a John Hugh Thomas yn gynnar iawn yn ei haddysg, a chafodd y cyfle ganddo i arwain corau megis Ysgol Gerdd Ceredigion a chorau Ysgol Dyffryn Teifi.

Cafodd y cyfle yn 1999 i gyd-weithio ar gryno ddisg Cwpan Rygbi’r Byd gan ysgrifennu’r rhagair am gerddoriaeth corawl Cymru a’r geiriau i gan Bryn Terfel a Shirley Bassey, `World in Union’. Ymddangosodd ar raglen rhwydwaith BBC 1 ar “Can’t Sing Singers” lle bu’n trwytho 12 o bobol sut i ganu am 6 mis.  Mae hi wedi gweithio fel cyd-lynydd Cerddoriaeth ar nifer o raglenni poblogaidd, gan gynnwys tair cyfres o Con Passionate, dwy gyfres o Coalhouse ac mae hi hefyd yn arwain Cor Pensiynwyr y Mochyn Du.  Bu’n gweithio fel darlithydd ar y cwrs Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau ond mae hi nawr yn Gyfarwyddwr ar Boom Talent, cwmni sy’n datblygu gyrfaoedd cyflwynwyr, actorion a chantorion.

Sioned James