Cyflwyniad

Côrdydd

Arweinydd: Huw Foulkes

Cyfeilydd: Branwen Gwyn

Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Tregaron 2022
Côr yr Ŵyl – Gŵyl Gorawl Rhyngwladol Caerdydd 2019
Tlws am y perfformiad gorau o gân cyfnod cynnar –
Gŵyl Gorawl Ryngwladol Dinas Derry 2019
Côr yr Ŵyl yng Ngŵyl Pan-Geltaidd Letterkenny 2018
Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Caerdydd 2018
Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Y Fenni 2016
Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Dinbych 2013
Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012
Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Wrecsam 2011
Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Caerdydd 2008

Y Côr Buddugol yn
Eisteddfod Tregaron 2022
Eisteddfod Amgen 2021
Eisteddfod Caerdydd 2018
Eisteddfod Y Fenni 2016
Eisteddfod Meifod 2015
Eisteddfod Llanelli 2014
Eisteddfod Dinbych 2013
Eisteddfod Bro Morgannwg 2012
Eisteddfod Wrecsam 2011
Eisteddfod Meirion 2009
Eisteddfod Caerdydd 2008
Eisteddfod Abertawe 2006
Eisteddfod Eryri 2005
Eisteddfod Casnewydd 2004

Côrdydd – pencampwyr
Cystadleuaeth Corau
Radio Cymru 2003

Côr o leisiau ifanc
yn perfformio dewis diddorol
o gerddoriaeth clasurol a chyfoes

.

Ymarferion

7.30 pm bob Nos Iau

yn Ysgoldy Capel Salem Treganna

Croeso i Aelodau Newydd

boed yn Soprano Alto Tenor neu Bas

Am wybodaeth pellach e-bostiwch

Cordydd1@gmail.com

HANES CORDYDD

 

Sefydlwyd Côrdydd nôl yn 2000 gan griw o ffrindiau ac maent wedi mwynhau llwyddiant yn ystod yr wyth mlynedd ers hynny.

Maent wedi teithio i Hong Kong a Barbados a nol yn 2004, aethant ar daith gyda Cherddorfa Baroc Cymru, i berfformio’r Meseia.  Yn 2003, enilllodd Cordydd gystadleuaeth Cor Cymru Radio Cymru.  Yn 2005 buont yn ffodus i ganu Requiem Verdi gyda Cherddorfa’r BBC a Requiem Brahms ar y cyd gyda Chor Bach Abertawe.  Maent wedi recordio sesiynau radio i’r Sunday Half Hour ar Radio 2 ac wedi ymddangos ar deledu a radio droeon.

 

Enillodd Cordydd yr ‘hatrick’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol nôl yn 2006, wedi buddugoliaethau eraill yn 2004, a 2005.  Ond mi gawsant hoe o’r cystadlu y llynedd i recordio eu CD cyntaf, o Offeren John Rutter i’r Meirw, gyda’r soprano ddisgalir Elin Manahan Thomas, a hynny yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed, a’r geiriau gan y bardd, Dr Emyr Davies.

Yn 2008, enillodd Côrdydd yn eu categori unwaith yn rhagor yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ar eu tir eu hunain yng Nghaerdydd, a choron ar yr wythnos honno, a’r flwyddyn 2008, oedd cael eu dewis yn Gôr Yr Wyl yn yr Eisteddfod honno.