Cystadlu

2013 Eisteddfod Dinbych

Côr yr Ŵyl Eisteddfod Dinbych 2013


Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Tregaron 2022
Côr yr Ŵyl – Gŵyl Gorawl Rhyngwladol Caerdydd 2019
Côr yr Ŵyl yng Ngŵyl Pan-Geltaidd Letterkenny 2018
Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Caerdydd 2018
Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Y Fenni 2016
Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Dinbych 2013
Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012
Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Wrecsam 2011
Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Caerdydd 2008

Y Côr Buddugol yn
Eisteddfod Tregaron 2022
Eisteddfod Caerdydd 2018
Eisteddfod Y Fenni 2016
Eisteddfod Meifod 2015
Eisteddfod Llanelli 2014
Eisteddfod Dinbych 2013
Eisteddfod Bro Morgannwg 2012
Eisteddfod Wrecsam 2011
Eisteddfod Meirion 2009
Eisteddfod Caerdydd 2008
Eisteddfod Abertawe 2006
Eisteddfod Eryri 2005
Eisteddfod Casnewydd 2004

Côrdydd – pencampwyr
Cystadleuaeth Corau
Radio Cymru 2003

Cordydd Eisteddfod 2009
Côrdydd yn ennill yn Eisteddfod y Bala 2009

Côr Cymru 2009
Ennill Cystadleuaeth Corau Cymysg – Côr Cymru 2009
Sioned James - Arweinydd Gorau Côr Cymru 2009
Sioned James – Arweinydd Gorau
Côr Cymru 2009

Eisteddfod 2008

Côr yr Ŵyl Eisteddfod Caerdydd 2008
Enillwyr Eisteddfod Caerdydd 2008

Eisteddfod Abertawe 2006

Enillwyr Eisteddfod Abertawe 2006

2005

Enillwyr Cystadleuaeth Côr Cymysg o dan 45 o leisiau
yn Eisteddfod Eryri 2005

2004
Côrdydd yn gyntaf yn y Côr Cymysg o dan 45 o leisiau
yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004

2004
2004
Côrdydd
Pencampwyr Cystadleuaeth Corau
Radio Cymru 2003

2003
Cystadleuaeth Radio Cymru 2003

2003

Ebrill y deuddegfed yng Nghaerdydd – dwy ffeinal, a’r cyffro’n heintus wrth ddisgwyl y diwrnod mawr. Ers misoedd, roeddem wedi bod yn dilyn trywydd Clwb Rygbi Cymry Caerdydd i’w ffeinal yn Stadiwm y Mileniwm, a’r achlysur wedi ei glustnodi yn ein dyddiaduron yn barod. Ond rhaid oedd newid ein cynlluniau pan ddaeth y newyddion fod ein côr ni, Côrdydd, drwyddo i ganu yn ffeinal Cystadleuaeth Corau Radio Cymru yn Neuadd Dewi Sant ar yr un dyddiad. Roedd diwrnod llawn cynnwrf ar y gorwel.

Mawr fu’r paratoi ar gyfer y gystadleuaeth gan y côr. Yn gyntaf, roedd angen twtio a chaboli’r darnau a ganwyd yn y rowndiau blaenorol. Ond rhaid oedd torchi llewys a newid ger er mwyn dysgu darn comisiwn, a hynny mewn ychydig wythnosau. Tipyn o her, yn enwedig a’r darn, `Atgofion’ gan Richard Elfyn, yn un nodweddiadol fodern yn llawn cymalau a chynganeddion annisgwyl. Rhaid cyfaddef ein bod ni’n gôr digon hamddenol fel arfer gyda’r pwyslais lawn cymaint ar y cymdeithasu a’r canu – polisi creiddiol i lwyddiant y côr er clod i Sioned James, ein harweinyddes. Ond rhaid oedd ymateb i’r her. Rhoddwyd recordiad personol o’r gan ar CD i bob aelod, a chyfarwyddyd pendant ein bod i wrando arni bob cyfle posib a’ i dysgu – yn y gwaith, yn y car, yn y gwely. . . !

Doeddem ni ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl ar y noson. A ninnau’n gôr cymharol newydd, roeddem yn ymwybodol ein bod yn cystadlu yn erbyn corau profiadol a oedd wedi hen ennill eu plwyf. Felly mentro a meddwl agored wnaethon ni, gyda Sioned yn rhoi’r pwyslais ar fwynhau a chanu’n gorau. A dyna a ddigwyddodd. Mwynhau am 17 munud ar lwyfan Neuadd Dewi Sant, a phawb yn gwneud eu gorau er parch i Sioned a’i gwaith caled. Hefyd, roedd bois y clwb rygbi wedi ennill eu ffeinal nhw yn y prynhawn, felly roedd hyd yn oed mwy o fin ar ein hawch cystadleuol. Byddai dathlu’r dwbwl yn golygu dwywaith y dathlu!

Mae’r gweddill yn hanes. Buddugoliaeth i’r côr, a ninnau’n gorfoleddu. Penwythnos mawr oedd hwnnw yng Nghaerdydd, a’n `Hatgofion’ ninnau, chwedl cân Richard Elfyn, yn rhai melys. Mae ein dyled yn fawr i Sioned am ei hymroddiad, ei hamynedd a’i diffyg cwsg! Ond mae arnom ddyled hefyd i drigolion Caerdydd am eu cefnogaeth i’r côr ers ein sefydlu dair blynedd yn ôl. A gyda’r gofid diweddar yn y wasg am segurdod Cymry ifanc Caerdydd, braf yw gallu adrodd bod digwyddiadau Ebrill y deuddegfed yn dystiolaeth bendant bod peth gweithgarwch a chyfrannu’n ôl yn rhan o’r cymdeithasu a’r joio yn y ddinas fawr.

Mari Watkin

2001
Dinbych 2001

 


EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DINBYCH 2001

Mae mis Awst yn adeg anodd i gael presenoldeb cyson gyda’r cor felly daeth 30 ohonom at ein gilydd i gystadlu yn y gystadleuaeth ffyrnig, Cor Cymysg dan 40 o leisiau. Perfformiwyd y darn gosod, ‘Am Brydferwch Daear Lawr’ gan Rutter, ‘Cennin Aur’, Mansel Thomas a ‘O Deffro Dant’ gan Haydn. Doedd y cor ddim yn disgwyl rhyw lawer gan mai dyma’r tro cyntaf iddynt gystadlu – ond yn ffodus, mi ddaeth y cor yn ail allan o 8 o gorau safonol a phrofiadol….felly ymlaen a ni at Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002!!!

 

2002
Ty Ddewi 2002

 

Ail unwaith eto!

 

2003
Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003

 

 


SIAMPÊN YN TROI’N CHWERW…
.

Côr CF1 yn fuddugol; Côr Caerdydd yn fuddugol; Côr Aelwyd Hamdden Caerdydd yn fuddugol. Mae’n siwr fod disgwyliadau trigolion Cymraeg y Brifddinas yn uchel gogyfer perfformiad Côrdydd ar ddydd Gwener yr Eisteddfod, yn enwedig ar ôl iddynt gipio’r wobr yng Nghystadleuaeth Radio Cymru Côr Cymru 2003 yn gynharach eleni.
Wel os oedd ‘na ddisgwyl mawr – siom a gafodd ein cefnogwyr, heb sôn amdanon ni, aelodau’r côr. Siomedigaeth lem!!!

Mi oedd yna 7 côr yn brwydro am y fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth Côr Cymysg rhwng 20-45 mewn nifer. A Chôrdydd oedd y cyntaf ar y llwyfan. Wedi misoedd o chwysu, bloeddio a diffyg cwsg, roeddwn fel arweinydd yn hollol sicr na allai’r 45 aelod bochgoch (o ganlyniad i wres tanbaid y Pafiliwn) fod wedi canu’n well. Dyma felly obeithio y byddai’r tri beirniad yn cytuno! Wedi dweud hyn, roedd yr hen ‘elynion’, Adlais, ABC a Chantorion y, Rhos, ac ambell i gôr newydd arall, wedi rhoi gwir her i’r corau i gyd a rhaid oedd derbyn fod y safon yn uchel iawn eleni.

Heidiodd y côr i wrando ar y feirniadaeth. A dyma Eifion Thomas yn dechrau traddodi, yn dra haelionus a chanmoliaethus am Gôrdydd; ac o glywed y chwe dyfarniad canlynol, roeddwn i’n gobeithio bod fy ngreddf yn gywir!

Ond och a gwae – fel pob drama dda, roedd ‘na dro i’r gwt! Roedd yr Eisteddfod wedi penderfynu gwneud esiampl o’r gystadleuaeth hon, a chosbi’r pum côr allan o’r saith, oedd wedi canu dros y deuddeng munud penodedig. Roedd wynepryd y tri beirniad yn adlewyrchu eu teimladau hwy ac, yn wir, deimladau’r corau. Anghredinedd bur!
O ganlyniad, mi aeth Côrdydd o fod yn gyntaf yn ôl beirniadaeth wreiddiol y beirniad, i fod yn 6ed allan o 7! Hyn wedi i’r Eisteddfod orfodi’r beirniad i newid y dyfarniad. Cwympo 0 91 0 farciau i 51 ! Mae’r peth yn chwerthinllyd erbyn hyn, ryw fis ar ôl y digwyddiad – ond doedd yr un ohonon ni’n chwerthin ar y pryd!

Fodd bynnag, wedi’r sylweddoliad fod y gallu i gyfri yn tra-arglwyddiaethu dros safon gerddorol, dim ond un peth oedd i wneud. Felly mas a’r Côr i ddathlu beth bynnag! Cafwyd noson arbennig ym Meifod, yn canu dros beint gydag aelodau Adlais a Chôr Eifionydd. Ond os nad oeddech chi yn digwydd bod ym Meifod y noson honno, tybed allwch chi ddychmygu beth oedd prif thema ein sgyrsiau…..??!!!!

Gyda llaw, yn dilyn digwyddiad tebyg yn Eisteddfod Tawe Nedd ac Afan eleni – mi fyddai’r Côr yn barod i dderbyn rhyw fath o iawndal gan unrhyw gwmni hedfan….maen nhw’n dweud fod y Maldives yn le braf!

Sioned James