Barbados 2003

HWYL YN BARBADOS

Côrdydd ar daith i Barbados Mai 2003
Rhwng y 24ain a’r 3lain o fis Mai 2003 cynhaliwyd Gwyl Geltaidd yn Barbados…dim tynnu coes! Cymysgwch o haul tanbaid, traethau melyn, môr clir,
a diwylliant Celtaidd (heb anghofio lot o rum!)

www.barbados.org/events/celtic.htm

Sadwrn 24ain : Rum Reception, Calledonian Night
Sul 25ain : Highland Games
Llun 26ain : dim trefniadau
Mawrth 27ain : Cyngerdd yn Collymore Hall, Bridgetown
Mercher 28ain : Cymanfa Ganu (nos)
Iau 29ain : opsiwn i fynd ar ‘cruise’
Gwener 30ain : opsiwn o noson ‘adloniant traddodiadol’
Sadwrn 31ain : Hedfan ‘nôl

Côrdydd yn y Caribî

Flwyddyn yn ôl, cafodd Côrdydd wahoddiad i gymryd rhan yng Ngwyl Geltaidd flynyddol Barbados. Derbyniwyd y gwahoddiad fwy neu lai ar unwaith, yna cawsom flwyddyn o gynnal gweithgareddau i ddenu diddordeb a chodi arian tuag at y daith.

Ar ôl blwyddyn o baratoi ac edrych ymlaen, daeth yr aros i ben wythnos y Sulgwyn 2003 a 38 ohonom ar dân i gyrraedd paradwys y Caribî.

I’n croesawu i’r wyl, cawsom fersiwn Barbados o’r ‘Highland Games’ gyda phawb yn mwynhau gêmau di-ri ar y traeth a pherfformiadau dewr iawn yn yr ornest tynnu rhaff!

Ar y nos Fawrth, roeddem yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Neuadd Collymore yn Bridgetown, ynghyd ag un o gorau lleol yr ardal. Dan arweiniad ein harweinyddes, Sioned James, buom yn diddanu cymuned yr ‘ex-pats’, gyda’r rhaglen gerddoriaeth amrywiol yn tynnu ambell ddeigryn i lygaid y Cymry alltud.

Cawsom hefyd wahoddiad i ganu mewn Cymanfa Ganu yn un o gapeli’r brifddinas, gyda thri chôr lleol arall. Gyda’r gynulleidfa frwdfrydig dan arweiniad Alun Guy, a’r gwres tanbaid, profodd hon yn noson i’w chofio. Profiad bythgofiadwy oedd cydganu emyn?donau Cymreig yng nghwmni llond capel o drigolion lleol Barbados.

Uchafbwynt y daith i lawer oedd dwy daith a gawsom ar gwch catamaran ar hyd arfordir yr ynys. Yn ystod y dydd, cawsom gyfle i roi tro ar ‘snorkellio’ a nofio ynghanol y pysgod a’r cwrel amryliw – profiad cofiadwy iawn! Ar y daith nos, roedd pawb mewn hwyliau a digonedd o ganu a dawnsio i’n diddanu ar fwrdd y llong. Daeth y cyfan i ben gyda’r côr yn morio canu’r anthem wrth ddocio ‘nôl yn yr harbwr.

Roedd hi’n wythnos i’w chofio, a’r sylw rwan yn troi at ddewis pa wlad y byddwn ni’n ymweld â hi’r flwyddyn nesaf. Mae’r awydd i deithio wedi cydio!