LLuniau 2019

Lluniau 2019

Cyngerdd Merthyr

Cyngerdd Theatr Soar Merthyr 19 Ionawr 2019

Gwyl Gorawl Rhyngwladol
Côr yr Ŵyl – Gŵyl Gorawl Rhyngwladol Caerdydd 2019

Tlws Karl Jenkins

Steffan Watkins a Huw Foulkes

Steffan Watkins a Huw Foulkes

CD Caniadaeth y Cysegr

Tabernacl caerdydd
Noson Lansio CD Caniadaeth y Cysegr yn 70 29 Medi 2019. Côrdydd a CÔR

 2il yng nghystadleuaeth Gŵyl Gorawl Ryngwladol Dinas Derry ac ennill y tlws am y perfformiad gorau o gân cyfnod cynnar



Cyngerdd Al lewis 14 Rhagfyr 2019

Al Lewis 13 - 14 Rhagfyr
Cyngerdd Acapela Pentyrch 19 Rhagfyr 2019

Acapela 19 Rhagfyr

Lluniau 2018

Cwpan yr Ŵyl Pan Geltaidd

2018 Gwyl Pan Geltaidd
Ennill Côr yr Ŵyl yn yr Ŵyl Pan Geltaidd Letterkenny Ebrill 2018

Cyngerdd 28 Ebrill 2018
Cyngerdd Lansio CD Côrdydd 28 Ebrill 2018
Crdydd a Coda 28 Ebrill 2018
COrdydd Côr Ieuenctid Môn
Côrdydd, Coda a Côr Ieuenctid Môn

Cyngerdd 28 Ebrill 2018

Cd Cordydd
Prynwch CD newydd Côrdydd – cordydd@gmail.com

Lansiad CD Côrdydd
Mae un o brif gorau’r brifddinas, Côrdydd, yn rhyddhau CD o gerddoriaeth amrywiol o Gymru a thu hwnt sy’n olrhain taith gerddorol y côr ers ei ffurfio.
Bydd y CD yn cael ei lansio mewn cyngerdd, yng nghwmni Côr Ieuenctid Môn, yn Eglwys St John, yr Ais, Caerdydd ar nos Sadwrn 28ain Ebrill 2018. Mae tocynnau ar gael yn www.cordydd.eventbrite.co.uk.
Mae’r CD yn cynnwys detholiad amrywiol o rai o ffefrynnau Côrdydd fel trefniant Jeff Howard o’r emyn enwog Pantyfedwen ac O Magnum Mysterium gan yr Americanwr hynaws Morten Lauridsen. Mae’n adlewyrchiad o ddatblygiad y côr dros y ddwy flynedd ar bymtheg ddiwethaf ers ffurfio’r côr o dan arweiniad y diweddar Sioned James.
Dywedodd Huw Foulkes, arweinydd Côrdydd, “Rydyn ni fel côr yn falch iawn o’r CD. Mae’n ffrwyth llafur calon i ni ac yn gofnod o nifer o brofiadau rydym ni fel côr wedi bod mor lwcus o’u cael. Profiadau fel cydweithio gyda’r cyfansoddwr o Gymru Paul Maelor a’r cyfansoddwyr byd-enwog Eric Whitacre a Moten Lauridsen. Rydyn ni’n gobeithio’n fawr ei fod yn fodd o gofio am Sioned, ac yn deyrnged deilwng iddi.”
Recordiwyd y CD yn stiwdio Acapela ym Mhentyrch o dan ofal y cynhyrchydd Rhian Williams ym mis Tachwedd y llynedd. Cyfeilydd y côr ydy Branwen Gwyn, sydd wedi bod yn gyfeilydd ers y cychwyn cyntaf, a Rhys Taylor sydd yn gyfrifol am drefniannau’r band.
Dywedodd y cerddor a sylfaenydd côr y Swansea Bach, John Hugh Thomas, “Yng Ngwlad y Gân, lle mae diddordeb mewn canu corawl yn rhan elfennol o fywyd, mae un côr neilltuol wedi sefyll ar y brig ers hir amser.  Fe ddaeth Côrdydd i fodolaeth trwy ddychymyg a chyffro’r cerddor dawnus, Sioned James ond braf gwybod bod ei chyfaill agos, Huw Foulkes, wedi llwyddo i ailgynnau’r fflam y gwnaeth Sioned ei thanio gyda chymaint o asbri yn y flwyddyn 2000.  A dyma’r dystiolaeth: rhywbeth at ddant pawb, a gwledd o ganu cymen. Yn iaith goeth Cwm Tawe, canu o ‘dop y tepot’.”
Ar wahân i ganu ar CD Nadolig Bryn Terfel, a gafodd ei ryddhau yn 2010, dyma ail CD y côr. Recordiwyd y cyntaf, sy’n gasgliad o ganeuon John Rutter, yn 2007. Mae Côrdydd wedi ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol un ar ddeg o weithiau, a chipio teitl Côr yr Wyl ar bum achlysur.  Fe ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Corau Radio Cymru yn 2003, ac ennill categori’r Corau Cymysg yng nghystadleuaeth Côr Cymru ar S4C ddwywaith, yn 2009 a 2017. Dros y blynyddoedd mae Côrdydd wedi canu amrywiaeth eang o ddarnau ar lwyfannau ar draws Cymru a thu hwnt, gan deithio i Barbados a Hong Kong, perfformio yn Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd, ac fel rhan o Wyl Gymreig Ontario yng Nghanada.  Bu’r côr yn ffodus hefyd o gael cydweithio â rhai o gyfansoddwyr corawl enwoca’r byd, gan gynnwys Eric Whitacre, Paul Mealor a Morten Lauridsen.

Am gopi o’r CD cysylltwch â cordydd1@gmail.com.

Cyngerdd 19 Mai 2018 Y Fenni

Trefynwy Mai 2018
Cyngerdd Trefynwy 19 Mai 2018

galeri -23 Mehefin 2018

Eisteddfod 2018
Buddugol yn Eisteddfod Caerdydd 2018 a Côr yr Ŵyl

Hwn yw fy Mrawd
Côrdydd Hwn yw fy Mrawd
Hwn yw fy Mrawd. Eisteddfod Caerdydd 2018

Cyngerdd 21 Medi

Côr Heol y March a Chôrdydd 21 Medi 2018

Y Bontfaen 23 Tachwedd

Cyngerdd y Bontfaen
Cyngerdd y Bontfaen 23 Tachwedd 2018

Cyngerdd Nadolig

Cyngerdd Steffan


Cyngerdd gyda Steffan Rhys Hughes 12 Rhagfyr 2018

Lluniau 2016 – 2017

 

Cyngerdd 2017

Castell Aberteifi 2017

Castell Aberteifi 2017

Côr Cymru
Ennill Côr Cymysg Côr Cymru 2017

Côrdydd 2017

Cyngerdd yY Bontfaen
Cyngerdd y Bontfaen 25 Tachwedd 2016

Cyngerdd 26 Tachwedd

Cordydd Eisteddfod 2016
Buddugol yn Eisteddfod Y Fenni 2016
Yn canu er cof am Sioned James
Côr yr Ŵyl Eisteddfod 2016

Taith Canada Ebrill 2016

Ottawa
Eglwys yn orlawn Cyngerdd Ottawa 23 Ebrill 2016

Ottawa

Cyngerdd ForgetmeNot
Cyngerdd yn Neuadd Dora Stoutzker 1 Ebrill 2016

Ottawa 2016

Cyngerdd 18 Mawrth

Cor Glanaethwy Cordydd
Cefin Roberts yn arwain Côr Glanaethwy a Chôrdydd 5 Mawrth 2016

Cyngerdd 5 Mawrth

Narberth

 

Lluniau 2014 2015

Ottawa
Eglwys yn orlawn Cyngerdd Ottawa 23 Ebrill 2016

Ottawa

Cyngerdd ForgetmeNot
Cyngerdd yn Neuadd Dora Stoutzker 1 Ebrill 2016

Ottawa 2016

Cyngerdd 18 Mawrth

Cor Glanaethwy Cordydd
Cefin Roberts yn arwain Côr Glanaethwy a Chôrdydd 5 Mawrth 2016

Cyngerdd 5 Mawrth

Narberth

Steffan a Huw
Ennill yn Eisteddfod Meifod 2015

Cyngerdd Nadolig 2014
Cordydd 11 Rhagfyr 2014

Poster Cyngerdd Rhagfyr 2014

Eisteddfod 2014
Buddugol yn Eisteddfod Sir Gâr 2014

Llwyfan S4C
Llwyfan S4C Hydref 2014

Carnegie

Neuadd Carnegie, 29 Mawrth 2014


Paul Mealor

Cyngerdd  Gwenllian Llŷr
Paul Mealor, Nia Tudur a Gwenllian Llyr (Telyn) a Ieuan Jones (Piano)

Capel Reutgers

Capel Rutgers, Efrog Newydd, 30 Mawrth 2014

Efrog Newydd

Cyngerdd Neuadd Carnegie

Tabernacl 2014

Cyngerdd Tabernacl Caerdydd

 

Efrog Newydd 2014

Efrog Newydd 2014

Carnegie

Neuadd Carnegie, 29 Mawrth 2014


Paul Mealor

Cyngerdd  Gwenllian Llŷr
Paul Mealor, Nia Tudur a Gwenllian Llyr (Telyn) a Ieuan Jones (Piano)

Capel Reutgers

Capel Rutgers, Efrog Newydd, 30 Mawrth 2014

Efrog Newydd

Cyngerdd Neuadd Carnegie

Rhaglen Neuadd Carnegie

Rhaglen Neuadd Carnegie >> pdf

Rhaglen Tabernacl caerdydd 2014

Rhaglen Tabernacl 2014 >> pdf

 

Lluniau 2012 2013

2013 Eisteddfod Dinbych

Côr yr Ŵyl Eisteddfod Dinbych 2013

Nadolig 2013

Steffan a Huw

Steffan Jones a Huw Foulkes, Arweinyddion 2013

Cyngerdd Merched y Wawr
Cyngerdd Merched y Wawr Medi 2013

Tŷ Ddewi 2013
Côrdydd gyda Paul Mealor a Morten Laurisden, Tŷ Ddewi 4 Mawrth 2013

Llandaf
Côrdydd gyda Paul Mealor a Morten Laurisden, Llandaf 5 Mawrth 2013

Rhagor yma >> Laurisden

Cyngerdd 4  5 Mawrth 2013

Western Mail

Eisteddfod 2012
Ennillwyr Eisteddfod y Fro 2012 a Côr yr Wyl

 

Lluniau 2011

Cyngerdd Hydref 2011 Whitacre

Western Mail

Cyngerdd Eric Whitacre

Hywel Gwynfryn yn trafod Cyngerdd Eric Whitacre
Radio Cymru 7/10/2011

Whitace BBC Classical

Western Mail

Côrdydd – Côr yr Ŵyl Eisteddfod Wrecsam 2011

Eisteddfod 2011
Cyntaf yn Eisteddfod Wrecsam 2011

côr yr Ŵyl

Branwen yn derbyn gwobr Côr yr Ŵyl

Prynwch Cd Ambiwlans Awyr Cymru
gyda Bryn Terfel a Chôrdydd

Anfonaf Angel, Bryn Terfel

Cordydd
Côrdydd – Arweinydd: Sioned James. Cyfeilydd: Branwen Gwyn.

Eric Whitacre

Eric Whitacre

Bryn terfel

Bryn Terfel

 

dewiCordydd 2011
Dechrau Canu Dechrau Canmol, Chwefror 2011

Cyngerdd

14 Ymweliad Heddiw, Cyfanswm 199121

Lluniau 2010

Dathlu 10

DATHLU DENGMLWYDDIANT

Mae 2010 yn flwyddyn fawr a nodedig i un cor cymysg o’r Brifddinas, sef Côrdydd.  Mi fydd 2010 yn flwyddyn gyffrous o ddathliadau wrth iddynt ddathlu penblwydd arbennig iawn yn 10 oed.

I nodi’r garreg filltir, mae’r penwythnos nesaf yn hollbwysig i 130 o gantorion, yn aelodau presennol a chyn-aelodau, wrth iddynt ymgasglu ar gyfer Cinio Mawreddog yn y Park PlazaMr Alwyn Humphreys yw’r gwr gwadd ac mae’n addo bod yn noson llawn nostalgia, o gofio, o ganu ac o ddathlu.

Mae’r dathliadau yn parhau trwy 2010 gyda chalendr cyffrous o gyngherddau a digwyddiadau gan gynnwys recordio CD arall ym mis Ebrill a thaith i Nantes.

Uchafbwynt y dathliadau fydd cyd-weithio yn agos gydag Eric Whitacre, un o gyfansoddwyr cyfoes mwyaf toreithiog a phoblogaidd y byd.  Mi fydd Whitacre yn cynnal cyngerdd arbennig iawn gyda Chôrdydd a gobeithio fydd hwn yn gychwyn ar berthynas hirhoedlog a ffyniannus rhyngddynt.

Mae Côrdydd wedi mwynhau llwyddiant mawr ers eu sefydlu fis Ionawr 2000.  Maent wedi cipio’r wobr gyntaf mewn pum Eisteddfod Genedlaethol yn y chwe mlynedd diwetha’, gan gael eu dyfarnu yn “Gôr yr Wyl” yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Fro yn 2008. Roedd 2009 yn dipyn o flwyddyn iddynt hefyd wrth iddynt gipio’r teitl am y Côr Cymysg Gorau yng Nghystadleuaeth S4C, “Côr Cymru”, a’r arweinyddes, Sioned James yn ennill gwobr Arweinydd Gorau y gyfres hefyd.

Mae Côrdydd wedi perfformio yn rhyngwladol ar lwyfannau Barbados a Hong Kong, ac maent yn brysur drwy’r flwyddyn yn canu mewn cyngherddau lleol a chenedlaethol ac yn cyfrannu at elusennau yn fynych.

Mae Côrdydd wedi perfformio yn helaeth ar raglenni ar S4C, BBC, ar Sunday Half Hour Radio 3, ac yn cael y cyfle bob blwyddyn i ganu ar Stadiwm y Mileniwm fel adloniant cyn y gemau Rygbi.  Maent yr un mor gartrefol yn perfformio yn ‘a-capela’ â’r gweithiau corawl mawr mwyaf poblogaidd fel Requiem Verdi, Brahms a’r Meseia.  Roedd ei CD cyntaf nhw o Requiem John Rutter, gydag Elin Manahan Thomas ym llwyddiant ysgubol wedi i’r recordiad gael sêl bendith y cyfansoddwr ei hun.

 

Sioned yn dathlu 10
gyda Jonsi 25/01/2010

 

   Cliciwch i ddarlen y llyfryn Dathlu 10

Sioned James

Sioned James - Arweinydd Gorau Côr Cymru 2009
Sioned James – Arweinydd Gorau Côr Cymru 2009

Sioned James

Cyngerdd 4 Côr

Cyngerdd

Eisteddfod Abertawe 2006

Enillwyr Eisteddfod Bala 2009, Caerdydd 2008, Abertawe 2006, Eryri 2005, Casnewydd 2004

Cyngerdd Eric Whitacre 6 Tachwedd 2010

Cyngerdd Eric Whitacre

Lluniau 2009

Cordydd Eisteddfod 2009
Côrdydd yn ennill yn Eisteddfod y Bala 2009

Sioned Ennill

Sioned James

Sioned James - Arweinydd Gorau Côr Cymru 2009
Sioned James – Arweinydd Gorau Côr Cymru 2009

Côr Cymru 2009
Ennill Cystadleuaeth Corau Cymysg – Côr Cymru 2009

Côr Cymru 2009

Rhiannon Pugh

Eisteddfod y Mochyn Du
Ennill Eisteddfod y Mochyn Du 2 Mawrth 2009

Côr Cymru
Ennill Cystadleuaeth Côr Cymru 22 Chwefror 2009

Côrdydd Stadiwm y Mileniwm 2009
Côrdydd yn cefnogi Cymru ar y maes 14 Chwefror 2009

Ar y Maes

Cyngerdd y Bontfaen

Cyngerdd Tydraeth