Lluniau 2018

Cwpan yr Ŵyl Pan Geltaidd

2018 Gwyl Pan Geltaidd
Ennill Côr yr Ŵyl yn yr Ŵyl Pan Geltaidd Letterkenny Ebrill 2018

Cyngerdd 28 Ebrill 2018
Cyngerdd Lansio CD Côrdydd 28 Ebrill 2018
Crdydd a Coda 28 Ebrill 2018
COrdydd Côr Ieuenctid Môn
Côrdydd, Coda a Côr Ieuenctid Môn

Cyngerdd 28 Ebrill 2018

Cd Cordydd
Prynwch CD newydd Côrdydd – cordydd@gmail.com

Lansiad CD Côrdydd
Mae un o brif gorau’r brifddinas, Côrdydd, yn rhyddhau CD o gerddoriaeth amrywiol o Gymru a thu hwnt sy’n olrhain taith gerddorol y côr ers ei ffurfio.
Bydd y CD yn cael ei lansio mewn cyngerdd, yng nghwmni Côr Ieuenctid Môn, yn Eglwys St John, yr Ais, Caerdydd ar nos Sadwrn 28ain Ebrill 2018. Mae tocynnau ar gael yn www.cordydd.eventbrite.co.uk.
Mae’r CD yn cynnwys detholiad amrywiol o rai o ffefrynnau Côrdydd fel trefniant Jeff Howard o’r emyn enwog Pantyfedwen ac O Magnum Mysterium gan yr Americanwr hynaws Morten Lauridsen. Mae’n adlewyrchiad o ddatblygiad y côr dros y ddwy flynedd ar bymtheg ddiwethaf ers ffurfio’r côr o dan arweiniad y diweddar Sioned James.
Dywedodd Huw Foulkes, arweinydd Côrdydd, “Rydyn ni fel côr yn falch iawn o’r CD. Mae’n ffrwyth llafur calon i ni ac yn gofnod o nifer o brofiadau rydym ni fel côr wedi bod mor lwcus o’u cael. Profiadau fel cydweithio gyda’r cyfansoddwr o Gymru Paul Maelor a’r cyfansoddwyr byd-enwog Eric Whitacre a Moten Lauridsen. Rydyn ni’n gobeithio’n fawr ei fod yn fodd o gofio am Sioned, ac yn deyrnged deilwng iddi.”
Recordiwyd y CD yn stiwdio Acapela ym Mhentyrch o dan ofal y cynhyrchydd Rhian Williams ym mis Tachwedd y llynedd. Cyfeilydd y côr ydy Branwen Gwyn, sydd wedi bod yn gyfeilydd ers y cychwyn cyntaf, a Rhys Taylor sydd yn gyfrifol am drefniannau’r band.
Dywedodd y cerddor a sylfaenydd côr y Swansea Bach, John Hugh Thomas, “Yng Ngwlad y Gân, lle mae diddordeb mewn canu corawl yn rhan elfennol o fywyd, mae un côr neilltuol wedi sefyll ar y brig ers hir amser.  Fe ddaeth Côrdydd i fodolaeth trwy ddychymyg a chyffro’r cerddor dawnus, Sioned James ond braf gwybod bod ei chyfaill agos, Huw Foulkes, wedi llwyddo i ailgynnau’r fflam y gwnaeth Sioned ei thanio gyda chymaint o asbri yn y flwyddyn 2000.  A dyma’r dystiolaeth: rhywbeth at ddant pawb, a gwledd o ganu cymen. Yn iaith goeth Cwm Tawe, canu o ‘dop y tepot’.”
Ar wahân i ganu ar CD Nadolig Bryn Terfel, a gafodd ei ryddhau yn 2010, dyma ail CD y côr. Recordiwyd y cyntaf, sy’n gasgliad o ganeuon John Rutter, yn 2007. Mae Côrdydd wedi ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol un ar ddeg o weithiau, a chipio teitl Côr yr Wyl ar bum achlysur.  Fe ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Corau Radio Cymru yn 2003, ac ennill categori’r Corau Cymysg yng nghystadleuaeth Côr Cymru ar S4C ddwywaith, yn 2009 a 2017. Dros y blynyddoedd mae Côrdydd wedi canu amrywiaeth eang o ddarnau ar lwyfannau ar draws Cymru a thu hwnt, gan deithio i Barbados a Hong Kong, perfformio yn Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd, ac fel rhan o Wyl Gymreig Ontario yng Nghanada.  Bu’r côr yn ffodus hefyd o gael cydweithio â rhai o gyfansoddwyr corawl enwoca’r byd, gan gynnwys Eric Whitacre, Paul Mealor a Morten Lauridsen.

Am gopi o’r CD cysylltwch â cordydd1@gmail.com.

Cyngerdd 19 Mai 2018 Y Fenni

Trefynwy Mai 2018
Cyngerdd Trefynwy 19 Mai 2018

galeri -23 Mehefin 2018

Eisteddfod 2018
Buddugol yn Eisteddfod Caerdydd 2018 a Côr yr Ŵyl

Hwn yw fy Mrawd
Côrdydd Hwn yw fy Mrawd
Hwn yw fy Mrawd. Eisteddfod Caerdydd 2018

Cyngerdd 21 Medi

Côr Heol y March a Chôrdydd 21 Medi 2018

Y Bontfaen 23 Tachwedd

Cyngerdd y Bontfaen
Cyngerdd y Bontfaen 23 Tachwedd 2018

Cyngerdd Nadolig

Cyngerdd Steffan


Cyngerdd gyda Steffan Rhys Hughes 12 Rhagfyr 2018