Côr yr Ŵyl Eisteddfod Caerdydd 2008
Enillwyr Eisteddfod Caerdydd 2008
Côrdydd – Salem 19 Mehefin 2008
Côr yr Ŵyl Eisteddfod Caerdydd 2008
Enillwyr Eisteddfod Caerdydd 2008
Côrdydd – Salem 19 Mehefin 2008
Gŵyl Cerdd a Blodau Llandeilo Fawr 15 Gorffennaf 2007
Cyngerdd Requiem John Rutter
Ystumllwynarth, Abertawe, 27 Ionawr 2007
Enillwyr Eisteddfod Abertawe 2006
Enillwyr Eisteddfod Abertawe 2006
Dechrau Canu, Dechrau Canmol 2006
Dechrau Canu Dechrau Canmol 7 Mai 2006
Cyngerdd Salem, Treganna, 2 Chwefror 2006
a Chyngherddau ym Mhorthcawl, Dinas Powys ac eraill.
Ennill Cystadleuaeth Côr dan 45 mewn nifer
yn Eisteddfod Eryri 2005
Clod i Côrdydd Roedd y wasg yn canmol gwaith y côr ym mherfformiad Requiem Verdi yn Neuadd Dewi Sant ar 8 Mehefin 2005. Un o brif rinweddau’r perfformiad oedd sain heini a bywiog y côr a ffurfiwyd drwy ymuno lleisiau ifanc Côrdydd gyda Chorws Cenedlaethol BBC Cymru. |
Côrdydd yn Rownd Derfynol Corau Cymysg Côr Cymru 2005 |
|
Côrdydd ar Noson Lawen, 8 Ionawr 2005. Recordiwyd Gorffennaf 2004 |
|
||
Buddugoliaeth yn Eisteddfod Casnewydd 2004
Cytganau’r Meseia yng Nghapel Minny Street ar 9 Rhagfyr 2004
Côrdydd. Sioned James, Arweinydd a Rob Nicholls, Organydd
Cyngerdd yn Eglwys Ystrad Aeron 23 Hydref 2004 |
Ymarfer Tachwedd 2004
Côrdydd ar Noson Lawen,
8 Ionawr 2005.
Recordiwyd Gorffennaf 2004
Côrdydd yn cefnogi tîm rygbi Cymru yn erbyn Seland Newydd 20 Tachwedd 2004
Ar BBC1 – 20 Tachwedd 2004
Côrdydd o flaen cynulleidfa o fil o bobl yn Neuadd Fawr Aberystwyth ar Nos Sadwrn, 18 Medi, 2004 mewn cyngerdd i godi arian at yr elusen leol, Ffagl Gobaith. |
Cafodd Côrdydd groeso gwresog gan Gymdeithas Cymry Llundain ar nos Sadwrn 2 Hydref 2004. Perfformiodd y cor i neuadd orlawn o Gymry Cymraeg y ddinas o dan arweiniad Sioned Jones. Un o uchafbwyntiau’r noson oedd unawd gan un o faswyr y cor, Osian Rowlands, a dderbyniodd gymeradwyaeth uchel.
Ond daeth y canu gorau ym mar Clwb Cymry Llundain, yn hir ar ol i’r gyngerdd swyddogol ddod i ben. Mae’n siwr roedd nifer o’r dinaswyr yn hiraethu am yr henwlad wrth i’r hen ffefrynau – Pantyfedwen, Finlandia, Calon Lan… gael eu bloeddio ar draws y bar. A diolch o galon i’r Clwb am gadw’r bar ar agor tan wedi 2yb!
“The 40-strong young Côrdydd sang the great choruses so crisply and with such inner strength and purpose that one almost forgot that its sound hovers nicely between youth and adult.” Nigel Jarrett, South Wales Argus
Mercher, Ebrill 7 2004
Meseia Eglwys St Catherine, Pontypridd, 28 Mawrth 2004
Gyda’r sêr yn y Reardon Smith ar 11 Rhagfyr 2003 Canu Carolau yng Ngwyl Aeaf Caerdydd 15 Rhagfyr 2003
|
Côrdydd ar daith i Barbados Mai 2003
Rhwng y 24ain a’r 3lain o fis Mai 2003 cynhaliwyd Gwyl Geltaidd yn Barbados…dim tynnu coes! Cymysgwch o haul tanbaid, traethau melyn, môr clir,
a diwylliant Celtaidd (heb anghofio lot o rum!)
www.barbados.org/events/celtic.htm
Flwyddyn yn ôl, cafodd Côrdydd wahoddiad i gymryd rhan yng Ngwyl Geltaidd flynyddol Barbados. Derbyniwyd y gwahoddiad fwy neu lai ar unwaith, yna cawsom flwyddyn o gynnal gweithgareddau i ddenu diddordeb a chodi arian tuag at y daith.
Ar ôl blwyddyn o baratoi ac edrych ymlaen, daeth yr aros i ben wythnos y Sulgwyn 2003 a 38 ohonom ar dân i gyrraedd paradwys y Caribî.
I’n croesawu i’r wyl, cawsom fersiwn Barbados o’r ‘Highland Games’ gyda phawb yn mwynhau gêmau di-ri ar y traeth a pherfformiadau dewr iawn yn yr ornest tynnu rhaff!
Ar y nos Fawrth, roeddem yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Neuadd Collymore yn Bridgetown, ynghyd ag un o gorau lleol yr ardal. Dan arweiniad ein harweinyddes, Sioned James, buom yn diddanu cymuned yr ‘ex-pats’, gyda’r rhaglen gerddoriaeth amrywiol yn tynnu ambell ddeigryn i lygaid y Cymry alltud.
Cawsom hefyd wahoddiad i ganu mewn Cymanfa Ganu yn un o gapeli’r brifddinas, gyda thri chôr lleol arall. Gyda’r gynulleidfa frwdfrydig dan arweiniad Alun Guy, a’r gwres tanbaid, profodd hon yn noson i’w chofio. Profiad bythgofiadwy oedd cydganu emyn?donau Cymreig yng nghwmni llond capel o drigolion lleol Barbados.
Uchafbwynt y daith i lawer oedd dwy daith a gawsom ar gwch catamaran ar hyd arfordir yr ynys. Yn ystod y dydd, cawsom gyfle i roi tro ar ‘snorkellio’ a nofio ynghanol y pysgod a’r cwrel amryliw – profiad cofiadwy iawn! Ar y daith nos, roedd pawb mewn hwyliau a digonedd o ganu a dawnsio i’n diddanu ar fwrdd y llong. Daeth y cyfan i ben gyda’r côr yn morio canu’r anthem wrth ddocio ‘nôl yn yr harbwr.
Roedd hi’n wythnos i’w chofio, a’r sylw rwan yn troi at ddewis pa wlad y byddwn ni’n ymweld â hi’r flwyddyn nesaf. Mae’r awydd i deithio wedi cydio!
Caws a Gwin Tachwedd 2002
|
|
|
Eisteddfod Dinbych 2001 |
Sêr yn Salem Nadolig 2001 |
|
Sêr yn Salem 1 Rhagfyr 2001
|
Cyngerdd Nadolig yn Tabernacl Caerdydd 2001 |
|
|
|
Golygfeydd o’r Opera Deledu |
‘CRWTYN BACH Y SIMNE’ |
Nadolig
|
2001
|
Crwtyn Bach y Simne
Teilwng yw yr Oen Rhagfyr 2000 |
Teilwng yw yr Oen 2000 |
Rhodri ar yr Iâ yng Ngwyl Aeaf Caerdydd
|
||||||||||||
Cyngerdd Cilgerran Gorffennaf 2003
|