Gŵyl Gorawl Derry 2019
Lluniau 2018
Buddugol yn Eisteddfod Caerdydd 2018 a Côr yr Ŵyl
Hwn yw fy Mrawd. Eisteddfod Caerdydd 2018
Cyngerdd y Bontfaen 23 Tachwedd 2018
Prynwch CD newydd Côrdydd – cordydd@gmail.com
Ennill Côr yr Ŵyl yn yr Ŵyl Pan Geltaidd Letterkenny Ebrill 2018
Cyngerdd Lansio CD Côrdydd 28 Ebrill 2018
Côrdydd, Coda a Côr Ieuenctid Môn
Cyngerdd Trefynwy 19 Mai 2018
Lansiad CD Côrdydd
Mae un o brif gorau’r brifddinas, Côrdydd, yn rhyddhau CD o gerddoriaeth amrywiol o Gymru a thu hwnt sy’n olrhain taith gerddorol y côr ers ei ffurfio.
Bydd y CD yn cael ei lansio mewn cyngerdd, yng nghwmni Côr Ieuenctid Môn, yn Eglwys St John, yr Ais, Caerdydd ar nos Sadwrn 28ain Ebrill 2018. Mae tocynnau ar gael yn www.cordydd.eventbrite.co.uk.
Mae’r CD yn cynnwys detholiad amrywiol o rai o ffefrynnau Côrdydd fel trefniant Jeff Howard o’r emyn enwog Pantyfedwen ac O Magnum Mysterium gan yr Americanwr hynaws Morten Lauridsen. Mae’n adlewyrchiad o ddatblygiad y côr dros y ddwy flynedd ar bymtheg ddiwethaf ers ffurfio’r côr o dan arweiniad y diweddar Sioned James.
Dywedodd Huw Foulkes, arweinydd Côrdydd, “Rydyn ni fel côr yn falch iawn o’r CD. Mae’n ffrwyth llafur calon i ni ac yn gofnod o nifer o brofiadau rydym ni fel côr wedi bod mor lwcus o’u cael. Profiadau fel cydweithio gyda’r cyfansoddwr o Gymru Paul Maelor a’r cyfansoddwyr byd-enwog Eric Whitacre a Moten Lauridsen. Rydyn ni’n gobeithio’n fawr ei fod yn fodd o gofio am Sioned, ac yn deyrnged deilwng iddi.”
Recordiwyd y CD yn stiwdio Acapela ym Mhentyrch o dan ofal y cynhyrchydd Rhian Williams ym mis Tachwedd y llynedd. Cyfeilydd y côr ydy Branwen Gwyn, sydd wedi bod yn gyfeilydd ers y cychwyn cyntaf, a Rhys Taylor sydd yn gyfrifol am drefniannau’r band.
Dywedodd y cerddor a sylfaenydd côr y Swansea Bach, John Hugh Thomas, “Yng Ngwlad y Gân, lle mae diddordeb mewn canu corawl yn rhan elfennol o fywyd, mae un côr neilltuol wedi sefyll ar y brig ers hir amser. Fe ddaeth Côrdydd i fodolaeth trwy ddychymyg a chyffro’r cerddor dawnus, Sioned James ond braf gwybod bod ei chyfaill agos, Huw Foulkes, wedi llwyddo i ailgynnau’r fflam y gwnaeth Sioned ei thanio gyda chymaint o asbri yn y flwyddyn 2000. A dyma’r dystiolaeth: rhywbeth at ddant pawb, a gwledd o ganu cymen. Yn iaith goeth Cwm Tawe, canu o ‘dop y tepot’.”
Ar wahân i ganu ar CD Nadolig Bryn Terfel, a gafodd ei ryddhau yn 2010, dyma ail CD y côr. Recordiwyd y cyntaf, sy’n gasgliad o ganeuon John Rutter, yn 2007. Mae Côrdydd wedi ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol un ar ddeg o weithiau, a chipio teitl Côr yr Wyl ar bum achlysur. Fe ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Corau Radio Cymru yn 2003, ac ennill categori’r Corau Cymysg yng nghystadleuaeth Côr Cymru ar S4C ddwywaith, yn 2009 a 2017. Dros y blynyddoedd mae Côrdydd wedi canu amrywiaeth eang o ddarnau ar lwyfannau ar draws Cymru a thu hwnt, gan deithio i Barbados a Hong Kong, perfformio yn Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd, ac fel rhan o Wyl Gymreig Ontario yng Nghanada. Bu’r côr yn ffodus hefyd o gael cydweithio â rhai o gyfansoddwyr corawl enwoca’r byd, gan gynnwys Eric Whitacre, Paul Mealor a Morten Lauridsen.
Am gopi o’r CD cysylltwch â cordydd1@gmail.com.
Lluniau 2016 – 2017
Ennill Côr Cymysg Côr Cymru 2017
Cyngerdd y Bontfaen 25 Tachwedd 2016
Buddugol yn Eisteddfod Y Fenni 2016
Yn canu er cof am Sioned James
Côr yr Ŵyl Eisteddfod 2016
Taith Canada Ebrill 2016
Eglwys yn orlawn Cyngerdd Ottawa 23 Ebrill 2016
Cyngerdd yn Neuadd Dora Stoutzker 1 Ebrill 2016
Cefin Roberts yn arwain Côr Glanaethwy a Chôrdydd 5 Mawrth 2016
Lluniau 2014 2015
Eglwys yn orlawn Cyngerdd Ottawa 23 Ebrill 2016
Cyngerdd yn Neuadd Dora Stoutzker 1 Ebrill 2016
Cefin Roberts yn arwain Côr Glanaethwy a Chôrdydd 5 Mawrth 2016
Ennill yn Eisteddfod Meifod 2015
Cordydd 11 Rhagfyr 2014
Buddugol yn Eisteddfod Sir Gâr 2014
Llwyfan S4C Hydref 2014
Neuadd Carnegie, 29 Mawrth 2014
Paul Mealor
Paul Mealor, Nia Tudur a Gwenllian Llyr (Telyn) a Ieuan Jones (Piano)
Capel Rutgers, Efrog Newydd, 30 Mawrth 2014
Efrog Newydd 2014
Lluniau 2012 2013
Côr yr Ŵyl Eisteddfod Dinbych 2013
Steffan Jones a Huw Foulkes, Arweinyddion 2013
Cyngerdd Merched y Wawr Medi 2013
Côrdydd gyda Paul Mealor a Morten Laurisden, Tŷ Ddewi 4 Mawrth 2013
Côrdydd gyda Paul Mealor a Morten Laurisden, Llandaf 5 Mawrth 2013
Rhagor yma >> Laurisden
Ennillwyr Eisteddfod y Fro 2012 a Côr yr Wyl
Lluniau 2011
|
Hywel Gwynfryn yn trafod Cyngerdd Eric Whitacre
|
Côrdydd – Côr yr Ŵyl Eisteddfod Wrecsam 2011
Cyntaf yn Eisteddfod Wrecsam 2011
Branwen yn derbyn gwobr Côr yr Ŵyl
Prynwch Cd Ambiwlans Awyr Cymru
|
![]() |
Côrdydd – Arweinydd: Sioned James. Cyfeilydd: Branwen Gwyn.
Eric Whitacre
Bryn Terfel
dewi
Dechrau Canu Dechrau Canmol, Chwefror 2011
Lluniau 2010
DATHLU DENGMLWYDDIANT
Mae 2010 yn flwyddyn fawr a nodedig i un cor cymysg o’r Brifddinas, sef Côrdydd. Mi fydd 2010 yn flwyddyn gyffrous o ddathliadau wrth iddynt ddathlu penblwydd arbennig iawn yn 10 oed.
I nodi’r garreg filltir, mae’r penwythnos nesaf yn hollbwysig i 130 o gantorion, yn aelodau presennol a chyn-aelodau, wrth iddynt ymgasglu ar gyfer Cinio Mawreddog yn y Park Plaza. Mr Alwyn Humphreys yw’r gwr gwadd ac mae’n addo bod yn noson llawn nostalgia, o gofio, o ganu ac o ddathlu.
Mae’r dathliadau yn parhau trwy 2010 gyda chalendr cyffrous o gyngherddau a digwyddiadau gan gynnwys recordio CD arall ym mis Ebrill a thaith i Nantes.
Uchafbwynt y dathliadau fydd cyd-weithio yn agos gydag Eric Whitacre, un o gyfansoddwyr cyfoes mwyaf toreithiog a phoblogaidd y byd. Mi fydd Whitacre yn cynnal cyngerdd arbennig iawn gyda Chôrdydd a gobeithio fydd hwn yn gychwyn ar berthynas hirhoedlog a ffyniannus rhyngddynt.
Mae Côrdydd wedi mwynhau llwyddiant mawr ers eu sefydlu fis Ionawr 2000. Maent wedi cipio’r wobr gyntaf mewn pum Eisteddfod Genedlaethol yn y chwe mlynedd diwetha’, gan gael eu dyfarnu yn “Gôr yr Wyl” yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Fro yn 2008. Roedd 2009 yn dipyn o flwyddyn iddynt hefyd wrth iddynt gipio’r teitl am y Côr Cymysg Gorau yng Nghystadleuaeth S4C, “Côr Cymru”, a’r arweinyddes, Sioned James yn ennill gwobr Arweinydd Gorau y gyfres hefyd.
Mae Côrdydd wedi perfformio yn rhyngwladol ar lwyfannau Barbados a Hong Kong, ac maent yn brysur drwy’r flwyddyn yn canu mewn cyngherddau lleol a chenedlaethol ac yn cyfrannu at elusennau yn fynych.
Mae Côrdydd wedi perfformio yn helaeth ar raglenni ar S4C, BBC, ar Sunday Half Hour Radio 3, ac yn cael y cyfle bob blwyddyn i ganu ar Stadiwm y Mileniwm fel adloniant cyn y gemau Rygbi. Maent yr un mor gartrefol yn perfformio yn ‘a-capela’ â’r gweithiau corawl mawr mwyaf poblogaidd fel Requiem Verdi, Brahms a’r Meseia. Roedd ei CD cyntaf nhw o Requiem John Rutter, gydag Elin Manahan Thomas ym llwyddiant ysgubol wedi i’r recordiad gael sêl bendith y cyfansoddwr ei hun.
Sioned yn dathlu 10
gyda Jonsi 25/01/2010
|
Sioned James – Arweinydd Gorau Côr Cymru 2009
Enillwyr Eisteddfod Bala 2009, Caerdydd 2008, Abertawe 2006, Eryri 2005, Casnewydd 2004
Cyngerdd Eric Whitacre 6 Tachwedd 2010
Lluniau 2009
![]() Côrdydd yn ennill yn Eisteddfod y Bala 2009 |
![]() |
![]() |
Sioned James – Arweinydd Gorau Côr Cymru 2009
Ennill Cystadleuaeth Corau Cymysg – Côr Cymru 2009
Ennill Eisteddfod y Mochyn Du 2 Mawrth 2009
Ennill Cystadleuaeth Côr Cymru 22 Chwefror 2009
Côrdydd yn cefnogi Cymru ar y maes 14 Chwefror 2009
Lluniau 2008
Côr yr Ŵyl Eisteddfod Caerdydd 2008
Enillwyr Eisteddfod Caerdydd 2008
Côrdydd – Salem 19 Mehefin 2008