Cyngerddau
13 a 14 Rhagfyr St Ioan Treganna
19 Rhagfyr Acapela Pentyrch
Côrdydd Arweinydd: Huw Foulkes Cyfeilydd: Branwen Gwyn
Côr yr Ŵyl yn Eisteddfod Caerdydd 2018 Y
Côr Buddugol yn Côrdydd
- pencampwyr
Côr o leisiau ifanc |
. | Ymarferion7.30 pm bob Nos Iau yn Ysgoldy Capel Salem Treganna
Croeso i Aelodau Newydd boed yn Soprano Alto Tenor neu Bas
Am wybodaeth pellach e-bostiwch
|
HANES CORDYDD |
||
Sefydlwyd Côrdydd nôl yn 2000 gan griw o ffrindiau ac maent wedi mwynhau llwyddiant yn ystod yr wyth mlynedd ers hynny. Maent wedi teithio i Hong Kong a Barbados a nol yn 2004, aethant ar daith gyda Cherddorfa Baroc Cymru, i berfformio’r Meseia. Yn 2003, enilllodd Cordydd gystadleuaeth Cor Cymru Radio Cymru. Yn 2005 buont yn ffodus i ganu Requiem Verdi gyda Cherddorfa’r BBC a Requiem Brahms ar y cyd gyda Chor Bach Abertawe. Maent wedi recordio sesiynau radio i’r Sunday Half Hour ar Radio 2 ac wedi ymddangos ar deledu a radio droeon. |
Enillodd Cordydd yr ‘hatrick’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol nôl yn 2006, wedi buddugoliaethau eraill yn 2004, a 2005. Ond mi gawsant hoe o’r cystadlu y llynedd i recordio eu CD cyntaf, o Offeren John Rutter i’r Meirw, gyda’r soprano ddisgalir Elin Manahan Thomas, a hynny yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed, a’r geiriau gan y bardd, Dr Emyr Davies. Yn 2008, enillodd Côrdydd yn eu categori unwaith yn rhagor yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ar eu tir eu hunain yng Nghaerdydd, a choron ar yr wythnos honno, a’r flwyddyn 2008, oedd cael eu dewis yn Gôr Yr Wyl yn yr Eisteddfod honno. |